Daeth project CALIN i ben ar 31 Awst 2023. Ceir rhagor o fanylion ar brif wefan CALIN: https://www.calin.wales/cy/

I gael rhagor o wybodaeth am brojectau CALIN gallwch anfon e-bost at Brifysgol Abertawe i’r cyfeiriad hwn: Calin@swansea.ac.uk

Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â Phrifysgol Bangor yn y dyfodol, ewch i dudalen we’r hyb cydweithredu i gael rhagor o wybodaeth: https://www.bangor.ac.uk/cy/hwb-cydweithredu

Gweithio gyda ni

Mae rhwydwaith CALIN yn galluogi mentrau i adeiladu menter gydweithredol â phrifysgolion partner ar gyfer ymchwil a datblygu, gan eu helpu i gael gwybodaeth ragarweiniol i lywio penderfyniadau ynghylch cychwyn prosiect, ei gyfeiriad a buddsoddiad yn y prosiect. Gall mentrau gyrchu cyfleusterau, sgiliau a gwybodaeth y brifysgol ac ymgysylltu â rhwydwaith CALIN ehangach trwy ddigwyddiadau a rhwydweithio. Os yw menter yn ceisio datblygu cynhyrchion, prosesau neu ddatrys problem newydd, gall y rhwydwaith hwyluso a chynnal astudiaethau ymchwil a datblygu tymor byr. Ar hyn o bryd mae CALIN yn cael ei ariannu tan fis Mai 2023.

Mae’r diagram llif uchod yn rhoi trosolwg symlach o broses CALIN. Bydd mentrau’n cwrdd â thîm CALIN ym Mangor i benderfynu a oes sgôp ar gyfer gweithgaredd CALIN i gefnogi eu datblygiad. Gwneir adolygiad o dechnoleg, IP a marchnad y fenter a bydd y tîm yn cael dealltwriaeth o nodau ac amcanion y fenter. Yna bydd tîm CALIN yn cynhyrchu argymhelliad ar gyfer un neu gyfuniad o’r canlynol:

  • Cyfeirio at brosiectau neu gyfleoedd eraill a ariennir
  • Ymgysylltiad parhaus â’r rhwydwaith a/neu weithgareddau prifysgol partner
  • Dogfennau/canllawiau pwrpasol (e.e. arfer gorau, gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs), ayb.)
  • Cynllun cynnig/prosiect ar gyfer cyfle ymchwil, datblygu ac arloesi (YD&A) nad yw’n un CALIN
  • Cynnig Gweithgaredd YD&A CALIN
    • Prosiect YD&A tymor byr, 1–3 mis
    • Prosiect YD&A tymor hir, 3–9 mis

Darllenwch astudiaethau achos prosiectau CALIN blaenorol.

Cymhwyster

Rhaid i gwmnïau sy’n gymwys i gael cymorth trwy CALIN fod yn fusnesau bach a chanolig yn y sector gwyddor bywyd neu iechyd a llesiant ac wedi’u lleoli yn rhanbarthau cymorth rhaglen Iwerddon-Cymru 2020. (Gweler yr ardaloedd gwyrdd ar y map isod)

Rhaid i gwmnïau sy’n derbyn cefnogaeth trwy CALIN fod yn fusnesau bach a chanolig. Diffinnir hyn fel categori o fenter ficro, fach a chanolig sy’n cyflogi llai na 250 o bobl ac sydd â throsiant blynyddol nad yw’n fwy na 50 miliwn EUR, a neu gyfanswm mantolen flynyddol nad yw’n fwy na 43 miliwn EUR. Disgwylir i gwmnïau wneud cyfraniad mewn nwyddau (anariannol) ar gyfer gweithgaredd YD&A.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda thîm CALIN @ Bangor e-bostiwch: calin@bangor.ac.uk