Daeth project CALIN i ben ar 31 Awst 2023. Ceir rhagor o fanylion ar brif wefan CALIN: https://www.calin.wales/cy/
I gael rhagor o wybodaeth am brojectau CALIN gallwch anfon e-bost at Brifysgol Abertawe i’r cyfeiriad hwn: Calin@swansea.ac.uk
Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â Phrifysgol Bangor yn y dyfodol, ewch i dudalen we’r hyb cydweithredu i gael rhagor o wybodaeth: https://www.bangor.ac.uk/cy/hwb-cydweithredu
Dewch i gyfarfod y tîm
Prif Ymchwilydd: Prof John Parkinson, Deon Coleg y Gwyddorau Dynol, a Chyfarwyddwr Canolfan Newid Ymddygiad Cymru.
Mae John yn Athro Niwrowyddoniaeth Ymddygiadol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng cymhelliant ac ymddygiad gyda ffocws penodol ar hyrwyddo’r gweithrediad gorau posibl. Nod ei waith yw datblygu a gwerthuso ymyriadau sy’n hyrwyddo gwybyddiaeth ac ymddygiad iach ac wrth wneud hynny, helpu unigolion i gyflawni nodau a goresgyn heriau. Mae prif ddiddordebau ymchwil ei grŵp yn cynnwys ymyriadau gwybyddol-ymddygiadol i gefnogi iechyd meddwl, ymyriadau hybu iechyd, a newid ymddygiad cymhwysol
Meysydd arbenigedd: gwyddoniaeth ymddygiad; cymhelliant; seicoleg gadarnhaol; arloesi trawsddisgyblaethol; llesiant sefydliadol.
Prif Ymchwilydd: Dr Caroline Bowman, Pennaeth Ysgol ac Uwch Ddarlithydd, Ysgol Seicoleg.
Niwroseicolegydd yw Caroline sy’n archwilio sut y gall ein profiadau emosiynol ddylanwadu ar ein penderfyniadau. Mae ei phersbectif empirig yn bwydo ei hangerdd dros nodi a datrys problemau o fewn byd busnes, ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o gleientiaid proffil uchel, gan bontio’r bwlch rhwng gwyddoniaeth ac ymarfer. Mae prif ffocws Caroline ar ddatblygu rhaglenni hyfforddi sy’n anelu at wella iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle.
Meysydd arbenigedd: gwneud penderfyniadau; seicoleg gymhwysol; iechyd a llesiant.
Prif Ymchwilydd: Dr Jamie Macdonald, Pennaeth Ysgol, yr Ysgol Chwaraeon, Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer Corff.
Ar ôl graddio mewn gwyddoniaeth chwaraeon a gweithio fel hyfforddwr gweithgareddau awyr agored ar ei liwt ei hun am rai blynyddoedd, dychwelodd Jamie i’r byd academaidd i gwblhau PhD mewn ffisioleg ymarfer corff clinigol. Mae wedi cydweithio â mentrau canolig bach lleol yn y sector twristiaeth antur, timau achub mynydd, sefydliadau alldaith a chwmnïau cynhyrchu cyfryngau trwy ei waith cymhwysol ac ymchwil mewn gweithgareddau awyr agored anturus. Mae’n gweithio gyda byrddau iechyd, grwpiau ymchwil ac ar brosiectau a ariennir gan NIHR trwy ei waith ar gleifion sy’n byw gyda chlefyd cronig.
Meysydd arbenigedd: ffisioleg ymarfer corff clinigol mewn clefyd cronig yr arennau; perfformiad mewn amgylcheddau uchder uchel.
Prif Ymchwilydd: Dr Ian Davies Abbott, Darlithydd mewn Gwyddorau Gofal Iechyd, Ysgol y Gwyddorau Iechyd.
Mae gan Ian gefndir clinigol mewn nyrsio iechyd meddwl, gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl pobl hŷn. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar herio iaith negyddol yn ymwneud â phobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a defnyddio dulliau cadarnhaol i roi newid sefydliadol neu gymdeithasol ar waith. Mae ei brojectau presennol yn cynnwys gweithio gyda Gwelliant Cymru i ystyried sut y gall iaith gadarnhaol mewn nodiadau achos ysgrifenedig ddylanwadu ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac archwilio llwybrau atgyfeirio pobl yng Nghymru sy’n cael diagnosis o fathau prin o ddementia.
Meysydd arbenigedd: Dementia, Iaith a theori lleoli, Ymchwiliad Gwerthfawrogol.
Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu mewn Iechyd a Llesiant (Gwyddorau Iechyd): Dr Lucy Bryning
Mae Lucy yn ymchwilydd gyrfa gynnar sydd â chefndir mewn gwerthusiadau iechyd cyhoeddus ac ymchwil treial clinigol cyfnod cynnar. Nod ymchwil cyfredol Lucy mewn cydweithrediad â chwmnïau yw helpu i drosi arloesedd yn ymarfer, a gwella iechyd a llesiant poblogaethau yng Nghymru ac Iwerddon. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwerthuso rhaglenni iechyd cyhoeddus cymhleth, ymyriadau seicogymdeithasol, mentrau atal a thechnolegau newydd ar gyfer gwella iechyd. Roedd Lucy yn gyd-awdur ar y gyfres o adroddiadau Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achos economaidd dros fuddsoddi ar draws cwrs bywyd, gan gynnwys Transforming Young Lives across Wales (2016), Living Well for Longer (2018) a Wellness in Work (2019).
Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu mewn Iechyd a Llesiant (Gwyddorau Iechyd): Dr Catherine MacLeod
Mae Catherine yn ymchwilydd sydd â chefndir mewn heneiddio’n iach, gan archwilio ffyrdd o gynorthwyo pobl i heneiddio’n dda a’r ffactorau bioseicogymdeithasol sy’n dylanwadu ar iechyd. Mae Catherine yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau yn ei hymchwil gan gynnwys dulliau meintiol ac ansoddol. Roedd ei gwaith ymchwil diweddar yn astudio y broses o gael mynediad i gymorth yn ddiweddarach mewn bywyd, a defnydd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan bobl â nam gwybyddol a dementia. Mae gan Catherine ddiddordeb arbennig yn y cof, gan gynnwys deall elfennau sylfaenol o sut mae’r cof yn gweithio ac yn methu, effaith newid swyddogaeth y cof ar unigolion a chymdeithas, a’r hyn y gellir ei wneud i helpu i gynnal y cof a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda nam ar eu cof.
Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu mewn Iechyd a Llesiant (Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff): Dr Sophie Harrison
Mae Sophie yn ymchwilydd gyrfa gynnar a gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Bangor yn 2020. Canolbwyntiodd PhD Sophie ar ddylanwad fitamin D, cwsg a ffactorau seicogymdeithasol ar haint anadlol ac imiwnedd mwcosaidd. Yn dilyn ei PhD, bu Sophie yn gweithio yn yr Uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor am chwe mis, lle enillodd brofiad mewn ymchwil iechyd cyhoeddus ac adolygu systematig. Mae diddordebau ymchwil Sophie yn cynnwys imiwnoleg chwaraeon ac ymarfer corff, seiconewroimiwnoleg, maeth chwaraeon ac ymarfer corff, a ffisioleg benywaidd.
Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu mewn Iechyd a Llesiant (Seicoleg): Dr Matt Boulter
Mae Matt yn ymchwilydd gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Bangor yn 2021. Edrychodd PhD Matt ar bersonoliaeth a dynameg grŵp, gyda ffocws penodol ar sut mae narsisiaeth yn effeithio ar weithrediad grŵp. Y tu hwnt i hyn, mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cynnwys arweinyddiaeth a delwedd y corff. Mae Matt wedi cyd-ysgrifennu penodau mewn gwerslyfrau ac erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid ar sut mae personoliaeth yn effeithio ar dimau, yn ogystal ag edrych ar gysylltiadau rhwng personoliaeth a dysmorffia cyhyrau.
Swyddog Cyswllt Busnes: Carol Thomas
Mae Carol wedi bod gyda CALIN ers 2018 ac mae’n dod â’i phrofiad mewn rheoli projectau ac ymchwil academaidd i’r tîm. Yn aml, hi yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig sydd eisiau gweithio gyda CALIN ac yna’n eu harwain drwy’r broses gyfan.
Swyddog Cymorth Prosiect Ymchwil: Nicky Jones
Cwblhaodd Nicky ei MSc mewn Seicoleg y Celfyddydau, Niwroestheteg a Chreadigrwydd ym Mhrifysgol Goldsmiths yn Llundain yn 2021. Mae ganddi gefndir helaeth yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, profiad mewn cymell a mentora ac arbenigedd mewn creu a hwyluso gweithdai sy'n canolbwyntio ar newid ymddygiad, emosiwn a gwybyddol. Mae hi wedi gweithio gyda diwydiant ar les sefydliadol a gweithwyr.
Swyddog Cymorth Prosiect Ymchwil: Hannah Jelley
Mae gan Hannah brofiad ymchwil helaeth yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr teuluol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Mae Hannah wedi rheoli projectau ymchwil amrywiol yn cynnwys projectau cydweithredol hydredol mawr Ewropeaidd, a hap-dreialon rheoledig ac astudiaethau lleol bach. Teitl ymchwil doethurol Hannah yw ‘Co-creating a resilience-building framework for people with dementia and their carers’. Mae hi wedi cyflwyno cyrsiau hyfforddi achrededig wedi eu teilwra ar ofal dementia ledled Cymru i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau cymysg ond mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ymchwil ansoddol. Mae gwella lles a grymuso unigolion yn bwysig dros ben i Hannah.
Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu Iechyd a Lles (Seicoleg): Dr Cat Atherton
Mae Cat yn ymchwilydd sydd wedi astudio am dair gradd seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, ganganolbwyntio ei hymchwil ar brosesau’r cof. Mae hyn wedi cynnwys arbrofi ymddygiadol ac electroffisiolegol. Roedd ymchwil doethurol Cat yn canolbwyntio ar y strategaethau semanteg wybyddol rydym yn eu defnyddio i brosesu brandiau, wynebau a gwrthrychau. Ar y cyd â’i hastudiaethau, mae Cat wedi parhau i weithio ym maes rheoli manwerthu mewn mentrau bach, canolig a mawr. Mae Cat wedi bod â diddordeb arbennig mewn defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth i wella morâl a lles tîm yn y gwaith, a gwella cynhyrchiant mewn lleoliadau manwerthu. Yn olaf, bu Cat yn gweithio mewn swyddi ymchwil ym Mhrifysgol Caer ym meysydd ymchwil seicoleg gymdeithasol a seicoleg gymhwysol.
Mae gan Cat ddiddordebau ymchwil mewn prosesau cof tymor hir a thymor byr, a seicoleg defnyddwyr o safbwynt niwrowybyddol.