Daeth project CALIN i ben ar 31 Awst 2023. Ceir rhagor o fanylion ar brif wefan CALIN: https://www.calin.wales/cy/

I gael rhagor o wybodaeth am brojectau CALIN gallwch anfon e-bost at Brifysgol Abertawe i’r cyfeiriad hwn: Calin@swansea.ac.uk

Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â Phrifysgol Bangor yn y dyfodol, ewch i dudalen we’r hyb cydweithredu i gael rhagor o wybodaeth: https://www.bangor.ac.uk/cy/hwb-cydweithredu

Croeso

Mae Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddor Bywyd Uwch (CALIN) yn rhwydwaith gwyddor bywyd datblygedig sy’n cysylltu busnes, y byd academaidd a gofal iechyd gydag arbenigwyr o chwe phrifysgol flaenllaw ledled Iwerddon a Chymru. Mae’n cynnig cyfle i fentrau ymgysylltu ag arweinwyr ym maes iechyd a llesiant, gwyddoniaeth feddygol a fferyllol uwch, nanotechnoleg a biotechnoleg. Mae’r rhwydwaith yn darparu mynediad at dechnoleg, arbenigedd gwyddonol, a rhwydwaith o arloeswyr gwyddor bywyd i gefnogi datblygiad cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau.

Mae Prifysgol Bangor yn arwain ar y thema iechyd a llesiant i CALIN ac yn ceisio cefnogi busnesau bach i ganolig (BBaChau) sy’n gweithio ym meysydd gwyddorau bywyd neu iechyd a llesiant.

Y chwe phartner prifysgol yw Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway a Sefydliad Cenedlaethol Tyndall.

Mae Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddor Bywyd Uwch (CALIN) yn weithgaredd INTERREG Iwerddon-Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Ewch i wefan CALIN i ddysgu mwy am waith y prosiect a phartneriaid eraill y brifysgol.

Cyflwyniad i CALIN

Gwyliwch PY CALIN John Parkinson yn cyflwyno CALIN ym Mangor ac yn egluro sut y gall busnesau bach a chanolig elwa o weithio gyda ni.