Daeth project CALIN i ben ar 31 Awst 2023. Ceir rhagor o fanylion ar brif wefan CALIN: https://www.calin.wales/cy/

I gael rhagor o wybodaeth am brojectau CALIN gallwch anfon e-bost at Brifysgol Abertawe i’r cyfeiriad hwn: Calin@swansea.ac.uk

Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â Phrifysgol Bangor yn y dyfodol, ewch i dudalen we’r hyb cydweithredu i gael rhagor o wybodaeth: https://www.bangor.ac.uk/cy/hwb-cydweithredu

Themâu a chyfleusterau iechyd llesiant @ Bangor

Mae CALIN yn mynd i’r afael â’r galw cynyddol yn y sector Gwyddor Bywyd sy’n ehangu’n gyflym am gydweithrediad gwell ac effeithiol ar draws diwydiant, y byd academaidd, gofal iechyd a’r llywodraeth. Mae poblogaeth sy’n heneiddio ynghyd â salwch cronig cynyddol, dewis defnyddwyr mwy gwybodus a ffocws cynyddol ar ‘well iechyd’, yn gyrru’r galw am fuddsoddiad sylweddol mewn ymchwil a datblygu (Y&D) i ateb i’r her o ddatblygu technolegau sy’n gwella iechyd. At hynny, yn ein byd COVID-19, mae galw cynyddol am ddulliau sefydliadol o ymdrin â llesiant, gan gynnwys ffyrdd arloesol o ddelio â heriau iechyd meddwl yn y gweithle (yn y cartref).

Mae Prifysgol Bangor yn arwain ar y thema iechyd a llesiant i CALIN ac mae gan y Brifysgol arbenigedd ar draws gwyddorau iechyd, biofeddygol, chwaraeon, ymarfer corff a pherfformio a gwyddorau ymddygiad. Mae’r sbectrwm eang hwn o arbenigedd yn rhoi capasiti ar gyfer amrywiaeth o wahanol brosiectau gan gynnwys: dylunio gwasanaethau ac arloesi; hybu iechyd a llesiant (dulliau ataliol, ar draws y rhychwant oes), perfformiad elitaidd a gwytnwch meddyliol; a llesiant sefydliadol, cymhelliant a llesiant yn y gweithle.

Isod gweler rhestr o bynciau a allai fod yn ffocws i gefnogaeth CALIN i fusnesau bach a chanolig a/neu brosiectau cydweithredol, ond nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr:

  • Newid ymddygiad cymhwysol
  • Gwytnwch meddyliol
  • Triniaeth ac atal iechyd meddwl
  • Hybu iechyd
  • Llythrennedd iechyd
  • Mentrau atal
  • Technolegau newydd ar gyfer gwella iechyd
  • Iechyd poblogaethau a sefydliadol
  • Economeg iechyd cyhoeddus
  • Iechyd y cyhoedd manwl
  • Ymarfer corff fel meddyginiaeth
  • Perfformiad elitaidd (adnabod talent; arweinyddiaeth; hyfforddi)
  • Archwaeth ac iechyd metabolig (rheoli pwysau)
  • Ymarfer corff a llythrennedd corfforol
  • Imiwnoleg chwaraeon ac ymarfer corff
  • Maeth chwaraeon ac ymarfer corff
  • Seiconewroimiwnoleg
  • Heneiddio’n iach
  • Nam gwybyddol a dementia
  • Swyddogaeth cof a nam
  • Dulliau systematig o ymdrin ag arloesi sefydliadol
  • Cymhelliant a llesiant yn y gweithle
  • Cydweithrediad diwydiannol a gofal iechyd

Gall busnesau bach a chanolig sy’n gweithio gyda CALIN gael mynediad at gyfleusterau, adnoddau ac arbenigedd o’r radd flaenaf @ Bangor sy’n cynnwys:

  • Swyddogaeth yr ymennydd – System Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) ar gyfer systemau niwrowyddoniaeth swyddogaethol, EEG ac ERP
  • Ffisioleg integreiddiol (ymateb i straen ayb.)
  • Siambr amgylcheddol (tymheredd, lleithder, uchder)
  • Asesiadau gwirio iechyd a chyfansoddiad y corff
  • Asesiadau perfformiad seico-ffisiolegol
  • Canolbwynt gwerth cymdeithasol
  • Gwerthuso meddyginiaethau
  • Labordy dal symudiadau
  • Rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd
  • Rheoli data
  • Proses dylunio ac arloesi gwasanaethau
  • Nodi cyfleoedd cyllido perthnasol

CALIN @ Bangor: Iechyd a Meddyginiaeth

Mae Lynne Williams PY CALIN yn cyflwyno'r thema iechyd a meddygaeth ar gyfer CALIN ym Mangor.

CALIN @ Bangor: Gweithgaredd a Pherfformiad Corfforol

Mae Jamie Macdonald PY CALIN yn cyflwyno'r thema gweithgaredd corfforol a pherfformio ar gyfer CALIN ym Mangor.

CALIN @ Bangor: Iechyd a Lles

Mae Caroline Bowman PY CALIN yn cyflwyno'r thema llesiant a seicoleg ar gyfer CALIN ym Mangor.